Clera

  • Author: Vários
  • Narrator: Vários
  • Publisher: Podcast
  • Duration: 116:02:52
  • More information

Informações:

Synopsis

Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)

Episodes

  • Clera Medi 2024

    28/09/2024 Duration: 01h55min

    Croeso i bennod hynod o swmpus o bodlediad Clera. Yn rhifyn mis Medi cawn nid yn unig glywed llais yr Archdderwydd, Mererid Hopwood yn trafod gwaith arobryn Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, ond cawn hefyd sgwrs hynod ddifyr yng nghwmni enillydd y Gadair honno, Y Prifardd Carwyn Eckley. Cawn hefyd y fraint o roi llwyfan i gerdd Gymraeg gyntaf yr awdur Mike Parker ynghyd a llawer mwy o'r dwli arferol.

  • Clera Awst 2024 - Yn Fyw o'r Babell Lên

    16/08/2024 Duration: 45min

    Croeso i bennod arbennig o Clera - yn fyw o'r Babell Lên. Ar sadwrn ola'r brifwyl wych a gynhaliwyd ym Mhontypridd, cawsom gwmni gwesteion ffraeth a difyr, sef Llio Maddocks, Siôn Tomos Owen, Gruffudd Antur a'r Prifardd Gwynfor Dafydd.

  • Clera Gorffennaf 2024

    31/07/2024 Duration: 01h44min

    Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y rhifyn hwn, cawn sgwrs ddifyr gyda Bardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni, Lois Medi Wiliam. Cawn hefyd sgwrs ddifyr am bamffledi gyda dau fardd sy'n cyhoeddi pamffledi newydd, sef Mari George a Jo Heyde. Cawn hefyd flas o gerddi arobryn Cadair Gŵyl Fawr Aberteifi, gan yr enillydd, Lowri Lloyd. Hyn a llawer mwy. Mwynhewch!

  • Clera Mehefin 2024

    28/06/2024 Duration: 01h16min

    Croeso i bennod Mis Mehefin o bodlediad barddol Clera. Y Mis hwn, Elinor Wyn Reynolds sy'n tafoli cyfrolau barddol Llyfr y Flwyddyn ac yn rhoi ei phen ar y bloc. Ond pa gyfrol mae Elinor yn tybio ddylsai ennill o blith y tair cyfrol wych sy'n y categori barddol eleni? Gwrandwch i gael gwybod. Cawn hefyd gerdd gan yr hyfryd Jo Heyde sydd wedi cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi drwy Gyhoeddiadau'r Stamp. Mynnwch gopi! Hyn oll a mwy!

  • Clera Mai 2024

    25/05/2024 Duration: 01h14min

    Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod Mis Mai o bodlediad Clera. Yn hoff fis Dafydd ap Gwilym cawn drafod llawysgrif newydd y mae'r Llyfrgell genedlaethol newydd ei brynu, Llyfr y Flwyddyn 2024, Eisteddfodau yr Urdd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam ac fe gawn hefyd gerddi gan Aron Pritchard ac Aled Lewis Evans. Hyn oll, a mwy!

  • Clera Ebrill 2024

    28/04/2024 Duration: 01h18min

    Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Y mis hwn cawn y pleser o holi Sioned Dafydd, Cyflwynydd Sgorio a Golygydd y flodeugerdd newydd o gerddi am y campau, 'Mae Gêm yn Fwy na Gêm' (Cyhoeddiadau Barddas). Clywn hefyd am arddangosfa o gelf a barddoniaeth sy'n ymateb i waith y bardd mawr o Gwrdistan, Abdulla Goran, yng nhgwmni Alan Deelan, Heledd Fychan AS ac Ifor ap Glyn. Hyn oll a chwmni ffraetha difyr ein Posfeistr, Gruffudd Antur.

  • Clera Mawrth 2024

    23/03/2024 Duration: 01h14min

    Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad Clera. Y tro hwn rydyn ni'n Pwnco am Pencerdd - cynllun cyffrous Pencerdd lle mae 5 bardd yn cael blwyddyn gyda 5 athro barddol i gamu ymlaen yn eu cynganeddu. Cawn felly gwmni Non Lewis ac Ana Chiabrando Rees, ill dwy yn rhan o'r 5 disgybl ar gynllun Pencerdd, yn ogystal â Mared Roberts a Leusa Llywelyn o Lenyddiaeth Cymru. Hyn a llawer mwy, mwynhewch.

  • Clera Chwefror 2024

    28/02/2024 Duration: 01h11min

    Croeso i bennod y Mis Bach o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon cawn bwnco yng nghwmni mari George a Jo Heyde wrth i ni drafod cyfrol newydd sbon 'Cerddi'r Arfordir' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a hefyd barn dreiddgar Gruffudd Antur ar Linell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis, ac mae gyda ni rai da y mis hwn!! Hyn a llawer mwy! Mwynhewch.

  • Clera Ionawr 2024

    27/01/2024 Duration: 01h25min

    Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Ym mhennod gynta'r flwyddyn cawn ddwy gerdd arbennig gan y Prif Lenor Sioned Erin Hughes. Byddwn hefyd yn Pwnco am Bwnco! Gwrandewch i wybod mwy a mwynhau pennod arall lawn dop o drin a thrafod barddol.

  • Clera Rhagfyr 2023

    19/12/2023 Duration: 01h41min

    Croeso i bennod mis Rhagfyr o Clera. Mae 'na gymysgedd o eitemau Nadolig ac eitemau oesol yn y bennod hon. Cawn y fraint o rannu darlith Gurffudd Antur a Peredur Lynch o Blas Mostyn, fel rhan o ŵyl Gerallt yng Nghaerwys. Delicasi Dolig gan Tudur Dylan Jones, Gorffwysgerdd nadoligaidd o gyfrol newydd Rhys Dafis ac englynion newydd sbon gan y Prifardd-Archdderwydd, Mererid Hopwood. Mwynhewch a Nadolig Llawen i chi gyd.

  • Clera Tachwedd 2023

    28/11/2023 Duration: 01h26min

    Croeso i bennod y Mis Du o bodlediad Clera. Yn gydymaith i chi wrth i'r nosweithi dywyllu'n gynt bydd arlwy difyr o'r byd barddol Cymraeg. Cawn sgwrs ddifyr a Gorffwysgerdd gan Clare E. Potter a fu'n fardd y mis ar Radio Cymru. Sgwrs ddifyr hefyd gyda'r Prifardd-Feuryn Twm Morys am ei gyfrol newydd a ddaeth allan dros yr haf, 'Y Clerwr Olaf' yn ogystal â sgwrs gyda Twm,y Meuryn, a'r Islwyn newydd yn Ymryson Barddas, Gruffudd Antur. Hyn...a mwy!!

  • Clera Hydref 2023

    27/10/2023 Duration: 01h15min

    Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad barddol hyna'r byd yn y Gymraeg. Y tro hwn cawn sgwrs hynod ddifyr a theimladwy gyda'r Prifardd Gruffudd Eifion Owen ynglŷn â'i ail gyfrol wych o gerddi, 'Mymryn Rhyddid' (Cyhoeddiadau Barddas). Hefyd cawn gerdd nas cyhoeddwyd o'r blaen o waith y diweddar Archdderwydd, Dafydd Rowlands, a Sioned Dafydd, y cyflwynydd pêl-droed adnabyddus, ac wyres Dafydd Rowlands sy'n ei darllen. Hyn a llawer mwy.

  • Clera Medi 2023

    29/09/2023 Duration: 01h43min

    Croeso i bennod mis Medi o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd! Yn y bennod hon cawn sgwrs gyda phrifardd y Goron, Rhys Iowerth am ei gerddi arobryn. Hefyd yn trafod gwaith buddugol Alan Llwyd yn y Gadair mae Jo Heyde a'r Prifardd Tudur Dylan Jones. Hefyd cawn wrando ar gerddi a enillodd wobrau mewn eisteddfodau i Gareth Lloyd James ac Alan Iwi. Mwynhewch

  • Clera Awst 2023

    31/08/2023 Duration: 01h01min

    Croeso i bennod mis Awst o Clera, sy'n dechrau ar y gwaith o drin a thrafod a thafoli'r Eisteddfod yng nghwmni'r Prifardd Hywel Griffiths. Byddwn yn gwneud mwy o adladd parthed y steddfod yn y misoedd i ddod. Ond cawn un eitem y tro hwn a recordiwyd ar faes y brifwyl, sef llinell gynganeddol ddamweiniol y maes, gyda Gruffudd Antur.

  • Clera Gorffennaf 2023

    21/07/2023 Duration: 01h32min

    Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon, cawn nid un, nid dwy, nid tair a na, nid pedair ond pum cerdd gan feirdd amrywiol, o Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron, i Arwel Rocet, Casi Wyn a Llio Maddocks. Sylw teilwng hefyd i Granogwen yn sgil dadorchuddio'r cerflun newydd arbennig ohoni, ac yn hynod gyffrous hefyd, sgwrs gyda Beirdd Plant Cymru, Casi Wyn, y Bardd Plant cyfredol a Nia Morais, y darpar Fardd Plant. Diolch hefyd i Llio Maddocks am rannu ei thelyneg fendigedig i Granogwen ac i Casi Wyn am y fraint o gael chwarae ei chân hudolus hi a disgyblion Ysgol T Llew Jones i Cranogwen. Hyn oll a mwy!

  • Clera Mehefin 2023

    30/06/2023 Duration: 01h43min

    Croeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch aml i fardd ar eu lwyddiannau, cawn orffwysgerdd yn egsliwsif gan fardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Tegwen Bruce-Deans. Cawn farn Jo Heyde hefyd ar lyfrau'r categori barddol yn Llyfr y Flwyddyn 2023 a llawer mwy.

  • Clera Mai 2023 - Eisteddfod yr Urdd

    31/05/2023 Duration: 40min

    Pennod arbennig o faes Eisteddfod yr Urdd, Sir Gâr yn Llanymddyfri. Cawn sgyrsiau gyda chyn-enillwyr Cadair yr Urdd, Iwan Rhys a Kayley Sydenham ynghyd â chlywed gan Drefnydd Creadigol yr Eisteddfod, Llio Maddocks. Cawn hefyd gerdd gan Tegwen Bruce-Deans o'i chyfrol gyntaf, 'Gwawrio'.

  • Clera Ebrill 2023

    28/04/2023 Duration: 01h23min

    Croeso i bennod mis Ebrill 2023 o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd. Y mis hwn cawn Orffwysgerdd arbennig gan y Prifardd Mererid Hopwood, yn ogystal â chlywed cyfraniadau gan Mererid fel Meuryn a beirdd talwrn a gynhaliwyd ym Mhontyberem. Hefyd, cawn drafodaeth ddifyr gyda Gruffudd Antur am hen drawiadau ym myd y gynghanedd yn y Pwnco. Mwynhewch!

  • Clera Mawrth 2023

    30/03/2023 Duration: 01h18min

    Croeso i bennod mis Mawrth. Gydag arwyddion bod y gwanwyn ar ei ffordd, a chyn hir Eisteddfod arall ym mis awst, cawn sgwrs ddifyr gyda dau a ddaeth yn deilwng o Gadair Eisteddfod `tregaron llynedd, sef Aros Pritchard a'r Prifardd Rhys Iorwerth am ragoriaethau a heriau sgwennu awdl. Hefyd, fe gawn flas o gyfrol newydd o gerddi y Prifardd Hywel Griffiths, 'Y Traeth o Dan y Stryd', yn ogystal a'r Delicassy gan (Tudur) Dylan a chwmni ein berniad miniog Gruffudd Antur ar gyfer llinell gynganeddol ddamweiniol y mis. Mwynhewch!

  • Clera Chwefror 2023

    27/02/2023 Duration: 01h27min

    Croeso i bennod y Mis Bach! Y tro hwn, cawn gyfle am fash-yp cyffrous rhwng Podlediad Clera a Haclediad, sef y podlediad hynaf yn y Gymraeg. Diolch i Sioned Mills a Iestyn Lloyd am ymuno â ni i drafod y posibilrwydd o weld AI yn camu i fyd barddoniaeth Gymraeg drwy raglenni fel ChatGPT a Dall-e. Ydy byd y beirdd yn dod i ben? Neu ydy beirdd am gael help llaw gyda'u crefft, fel y mae'r odliadur yn cynnig help llaw? Hefyd, cawn Orffwysgerdd gan fardd arobryn Cadair Eisteddfod Caerdydd eleni, Non Lewis, a chawn hefyd gwmni Tudur Dylan Jones a Gruffudd Antur. Mwynhewch!

page 1 from 5