Beti A'i Phobol
Sioned Fôn Jones
- Author: Vários
- Narrator: Vários
- Publisher: Podcast
- Duration: 0:41:46
- More information
Informações:
Synopsis
Sioned Fôn Jones, gwyddonwraig ifanc o bentref Waunfawr, Gwynedd yw gwestai Beti George.Mae wedi creu cwmni Booby Biome yn Llundain. " Ni oedd y cwmni cyntaf o'i fath yn y maes yma" meddai Sioned. Maen nhw'n creu llaeth sydd yn debyg i laeth y fron, "mae'n cocktail o facteria perffaith i fabi" tebyg i probiotic sydd wedi ei ddylunio o laeth y fron gan griw o wyddonwyr ifanc. Y gobaith ydi y bydd yn cael ei gyflwyno i ysbytai, wardiau babis flwyddyn nesa. Mae’r cwmni wedi tyfu ers ei sefydlu yn 2019. Fe sefydlwyd y cwmni yn Ysbyty Great Ormond Street , gan mae dyma’r ysbyty plant gorau yn y byd ac mae’r ymchwil sydd yn cael ei wneud yno yn arwain y ffordd mewn sawl maes o fewn iechyd plant.Mae gan Sioned lawer o uchafbwyntiau i’w gyrfa. Un pennaf oedd ennill lle ar restr ‘Forbes 30 Under 30’ llynedd. Mae’r wobr yma yn ddathliad o 30 o bobl o dan 30 oed sydd wedi gwneud cyfraniad nodweddiadol yn eu maes ac wedi cyflawni rhywbeth arbennig.Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys darn piano arben