Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Hedd Ladd-Lewis
18/11/2018 Duration: 47minErbyn ei fod yn un ar ddeg oed, roedd Hedd Ladd-Lewis wedi byw yn Kenya ac yn Zambia.Dychwelodd y teulu i Gymru, ac i lethrau Carn Ingli, pan ddaeth yn amser iddo fynd i'r ysgol uwchradd.Cafodd ei ysbrydoli gan ei athro hanes yn Ysgol y Preseli, yr arlunydd Aneurin Jones, a oedd yn defnyddio dulliau anghyffredin i gynnau diddordeb ei ddisgyblion.Yn ddeuddeg oed, cloddiodd Hedd gyda thîm o archeolegwyr am y tro cyntaf, ac ers hynny hanes ac archaeoleg sydd wedi mynd â'i fryd.Ar ôl cyfnod yn gweithio yn Llundain, dychwelodd i Gymru a chymhwyso fel athro hanes.Mae'n dweud ei bod yn fraint cael defnyddio ei bwnc bob dydd.
-
Bethan Bryn
04/11/2018 Duration: 48minDyw'r cerdd dantwraig Bethan Bryn ddim yn or-hoff o’r gair arbrofi. Yn hytrach, mae'n credu y dylid dangos bod mwy i gerdd dant na chystadlu, a bod angen gwthio'r grefft tu hwnt i'r llwyfan eisteddfodol.Ei chwaer Angharad a oedd i fod i gael gwersi telyn yn wreiddiol, ond buan iawn y dechreuodd Bethan ddysgu canu'r offeryn yn ei lle.Bu'n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru, ac yn yr ysgol daeth dan ddylanwad Aled Lloyd Davies, er iddi ei gythruddo gyda'i gosodiad cyntaf ar gyfer Rhianedd Môn.Cafodd le i astudio chwaraeon mewn coleg yn Lerpwl, a bu bron iddi ddilyn y trywydd hwnnw yn lle astudio cerddoriaeth.Cerddoriaeth aeth â hi yn y pen draw, gan arwain at flynyddoedd o berfformio, cyfeilio a hyfforddi; a nid pawb all ddweud i Delynores Maldwyn a Thelynores Eryri ddechrau cecru yng nghanol ei phriodas.
-
Neville Evans
28/10/2018 Duration: 48minFfiseg yw prif ddiddordeb y gwyddonydd Neville Evans. Mae'n dweud ei fod yn wyddor sy'n mynd ar ôl y manwl, ond hefyd yn gweld y darlun ehangach.Treuliodd ei fywyd ym myd addysg, fel athro, arolygwr, ac yna llywodraethwr.Cafodd ei ddiddordeb yng ngwyddonwyr Cymreig cyfoes ei sbarduno wedi iddo glywed hanesion lleol yn blentyn am E. G. Bowen a'i arbrofion radar.Mae'n credu y dylid gwneud rhagor i hybu gwybodaeth disgyblion Cymru am wyddonwyr cyfoes, a fe sy'n gyfrifol am y posteri o wyddonwyr Cymreig mewn ysgolion ledled y wlad.Mae hefyd yn sgwrsio gyda Beti am ei atgofion o fagwraeth braf yn Gendros, Fforestfach, ac am bwysigrwydd ffydd iddo fe.
-
Llinos Dryhurst-Roberts
21/10/2018 Duration: 46minBraf 'di cael bod yn hapus, yn ôl Llinos Dryhurst-Roberts.Mae hi bob amser wedi bod yn hoff o antur, ac wedi treulio blynyddoedd yn y fyddin, gan wasanaethu yn Bosnia sawl tro.Mae wedi gweithio hefyd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac i gwmni preifat yn Irac, lle cafodd ei hanafu'n ddifrifol.Wedi’r anaf, daeth cyfnod gyda'r gwasanaeth cudd, ond erbyn hyn mae'n cydreoli ac yn coginio mewn caffi yng Nghaernarfon.Mae'n dweud ei bod yn fodlon ei byd, wedi cael gwireddu sawl breuddwyd, ac wedi dod i ddeall beth sy'n bwysig mewn bywyd.
-
Mike Parker
14/10/2018 Duration: 47minMae naws lle yn bwysig i Mike Parker, ac mae'n dweud ei fod bob amser wedi bod eisiau byw yng Nghymru.Cafodd ei fagu yn Kidderminster, tua deugain milltir o'r ffin.Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, a symudodd ei fam i Ffrainc. Mae'n amau mai dyna a arweiniodd at ei hoffter o fapiau, oherwydd eu bod yn fodd iddo gael trefn ar fyd cymhleth.Astudiodd ddrama a Saesneg yn Llundain, gan droi at 'sgrifennu yn y pen draw fel bywoliaeth.Yn gydawdur The Rough Guide to Wales, symudodd i'r wlad yn 2000 gan ddysgu Cymraeg, ac yn 2015 fe oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion.
-
Aled Rees
07/10/2018 Duration: 42minMethiant yw peidio â mentro yn y lle cyntaf yw beth sy'n gyrru Aled Rees, “bachgen stwbwrn o Langwyryfon”, i ddatblygu syniadau a busnesau newydd.Er gwaethaf diffyg cymwysterau, aeth i weithio yn labordy Ysbyty Bronglais, gan fynd yn ei flaen i gwblhau cwrs gradd a meistr. Bu'n rhaid rhoi’r gorau i’r gwaith hwnnw yn y pen draw, i ganolbwyntio ar ei wahanol fusnesau.Penderfynodd ddysgu Sbaeneg, ac arweiniodd hynny at gwrdd â'i wraig, Angeles, a hefyd at sefydlu cwmni Teithiau Tango. Mae gan Aled ac Angeles dri o blant, ac mae'n sôn wrth Beti pa mor bwysig yw teulu iddo, ac am ei edmygedd o'i ddiweddar fam.
-
Sarah Reynolds
30/09/2018 Duration: 40minWedi'i geni a'i magu yn Surrey, doedd Sarah Reynolds prin yn ymwybodol o Gymru a'r Gymraeg cyn iddi gwrdd â'i gŵr, Geraint, ar ddêt cudd yn Llundain.Yn byw yng Nghymru erbyn hyn, cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2016.Yn ifanc, ceisiodd wrthryfela trwy fod yn actores, cyn newid trywydd wedi cyfnod o iselder.Mae wedi gweithio yn y cyfryngau, ac yn un o'r criw a oedd yn dyfeisio tasgau ar gyfer preswylwyr tŷ Big Brother, ond fel awdures sy'n magu ei theulu yng Nghymru y mae'n teimlo iddi ddod o hyd i'r lle mae hi’n perthyn.
-
David John
23/09/2018 Duration: 48minRhyddid meddwl, bywydau preifat unigolion a hawliau dynol yw'r themâu sy'n mynd â sylw'r awdur David John (D.B. John), dro ar ôl tro yn ei waith.Yn enedigol o Efail Isaf, bu'n gweithio yn adran gytundebau cwmni cyhoeddi mawr yn Llundain, cyn newid cyfeiriad a gweithio fel golygydd llyfrau i'r un cwmni.Trwy gymryd cyfnodau di-dâl o'r gwaith, cafodd gyfle i deithio yn helaeth, gan gynnwys cyfnodau yn Ynysoedd Cook a De America.Cafodd brofiad brawychus yn Wrwgwái, wrth i leidr ei fygwth gyda dryll. Ysbrydolodd hynny stori fer ganddo, gan ailgynnau ei ddiddordeb mewn 'sgrifennu.Penderfynodd ddilyn cwrs M.A. mewn ysgrifennu creadigol, a ffrwyth y cwrs oedd ei nofel gyntaf, Flights to Berlin.Mae hefyd yn sôn wrth Beti George am ei gyfnodau yng Ngogledd Corea, yn ymchwilio ar gyfer ei ail nofel, ac am weithio fel cynorthwy-ydd i'r Gordon Brown a'r Tony Blair ifanc yn San Steffan.
-
Sian Lloyd
16/09/2018 Duration: 44minMae newyddiaduraeth wedi bod o ddiddordeb i Sian Lloyd ers pan oedd yn ifanc.Roedd yn rhan o griw a sefydlodd bapur newydd yn ei hysgol, ac ar gyfer ei herthygl gyntaf ymunodd â'r wasg yng ngorsaf reilffordd Wrecsam, i adrodd ar ymweliad gan y Dywysoges Diana.Wrth sgwrsio â Beti George, mae'n gweithio i wasanaeth newyddion rhwydwaith y BBC, yn gohebu ar straeon o Gymru, neu'n dod â gogwydd Cymreig i straeon newyddion y dydd.Cafodd Sian ei magu yn Birmingham, cyn i'r teulu symud i Wrecsam pan oedd yn 7 oed.Daw ei thad o Eifionydd yn wreiddiol, ond cwrddodd ei rhieni mewn capel yn Llundain, ac adleoli i Ganolbarth Lloegr.Yn ogystal â darlithio ym maes adeiladu, roedd ei thad yn teithio dramor gyda'r Cyngor Prydeinig, yn enwedig i wledydd yn Affrica, i sefydlu cyrsiau yno.Astudiodd Sian y gyfraith yn y coleg, a threuliodd gyfnodau yn hyfforddi yn Llundain a Hong Kong, cyn dilyn ei breuddwyd a chwilio am waith ym myd newyddiaduraeth.Mae wedi dal sawl swydd yng Nghymru, yn ogystal â gweithio i'r BBC yn Llundain a
-
Elin Fflur
09/09/2018 Duration: 44minMae Elin Fflur yn gwybod ers pan oedd yn ifanc na fyddai'n medru gwneud swydd sy'n golygu gwneud yr un peth bob dydd.Roedd ei magwraeth yn ardal Dwyran yn un ddelfrydol, meddai, ac mae wedi etifeddu ei dawn greadigol gan sawl aelod o'r teulu.Ystyriodd weithio gyda'r heddlu, cyn penderfynu canolbwyntio ar yrfa fel cantores, ac erbyn hyn fel cyflwynwraig hefyd.Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n trafod y cyfleoedd a gafodd i ganu y tu allan i Gymru, gan gynnwys treulio amser yn America gyda'r rheolwr David Aspden a'r cynhyrchydd Jim Steinman. Yn y pen draw, fodd bynnag, plesio'r gynulleidfa o'i blaen yw'r peth pwysicaf un.Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd wybod na allai feichiogi'n naturiol, ac mae'n ystyried ei phrofiadau o driniaeth IVF yn rhes o rwystrau. Mae'n credu'n angerddol bod angen trafod IVF yn fwy agored, er mwyn cynorthwyo eraill i ddeall y broses.
-
Hefin Jones
22/07/2018 Duration: 49minBeti George yn sgwrsio â Dr. Hefin Jones o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.Yn ogystal â bod yn uwch ddarlithydd yn y brifddinas, mae'n brysur iawn gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd, ac yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y radio a'r teledu.Mae'n gwmni i Beti ar achlysur derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a hynny am ei gyfraniad oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
-
Meic Birtwistle
15/07/2018 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio â'r newyddiadurwr a chyn-swyddog undebol Meic Birtwistle am ei fagwraeth yn Surrey, a'r penderfyniad i ddysgu Cymraeg o ddifrif yn 13 oed.Enillodd ysgoloriaeth i Sandhurst, ond fe drodd ei gefn ar y fyddin wedi iddo gael ei radicaleiddio'n wleidyddol yn y coleg yn Abertawe.Bu'n cynorthwyo Jeremy Corbyn yn ystod ei ymgyrch i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur, ac mae'n angerddol am yr angen i amddiffyn hawliau'n y gweithle a hawliau ieithyddol.
-
Alaw Griffiths
08/07/2018 Duration: 55minBeti George yn sgwrsio gydag Alaw Griffiths. Beti George chats with Alaw Griffiths.
-
Hefin Jones-Roberts
01/07/2018 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda Hefin Jones-Roberts. Beti George chats with Hefin Jones-Roberts.
-
Siriol Burford
24/06/2018 Duration: 49minBeti George yn sgwrsio â Siriol Burford, enillydd un o wobrau elusen Chwarae Teg yn 2017, sy'n cydnabod pob agwedd ar fywydau menywod. Beti George chats with Siriol Burford.
-
Deri Tomos
18/06/2018 Duration: 46minEr bod Deri Tomos wedi ymddeol o'i waith bob dydd ym Mhrifysgol Bangor, mae ei frwdfrydedd dros wyddoniaeth a thros annog pobl i astudio a thrafod gwyddoniaeth yn Gymraeg yr un mor heintus â phan oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt.Treuliodd Deri ei flynyddoedd cynnar yn Gillingham, cyn i'r teulu symud i Gaerdydd.Dysgodd Gymraeg, ond mae'n difaru iddo beidio â chael cyfle i ddysgu tafodiaith Gwenhwyseg teulu ei dad.Mae'n sôn wrth Beti am ei ffydd, traddodiadau asgell chwith Coleg y Brenin yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr, drwghoffi ffonau o bob math, cadw gwenyn a dysgu canu.Mae hefyd yn trafod datblygiadau gwyddonol o bob math ym maes iechyd, technoleg a'r gofod.
-
Eleri Twynog Davies
12/06/2018 Duration: 46minMae syniad da, sy'n cydio yn nychymyg pobl, yn medru mynd yn bell iawn, a dyna sydd wedi gyrru Eleri Twynog Davies trwy gydol ei gyrfa ym myd marchnata.Mae wedi hyrwyddo gwyliau fferm i'r Bwrdd Croeso, ac arwain gwaith marchnata'r Eisteddfod mewn cyfnod pan oedd y syniad hwnnw'n un newydd. Bu hefyd yn bennaeth marchnata yn S4C, gan reoli cyllideb o £3 miliwn, a chyflwyno'r syniad o sioeau Cyw.Cafodd ei magu yn Aberteifi, ac mae'r atgofion am ei phlentyndod yn rhai hynod hapus.Pan oedd yn y chweched dosbarth, daeth hi a chriw o ferched eraill yr ysgol at ei gilydd i ffurfio'r grŵp Cwlwm, gan ryddhau sawl albwm a theithio'n helaeth.Astudiodd ddrama a Chymraeg ym Mangor, cyn symud i Guildford i ddilyn cwrs M.A. mewn twristiaeth a marchnata.Er ei bod yn rhy swil i fod yn actores ei hun, mae wrth ei bodd gefn llwyfan, ac wedi dychwelyd i fyd drama ers gadael S4C.Y syniad sy'n ei gyrru hi heddiw yw cyflwyno hanes Cymru i ddisgyblion ysgol.Sefydlodd gwmni Mewn Cymeriad, sy'n darparu sioeau un person yn seiliedig ar
-
Bleddyn Jones
27/05/2018 Duration: 42minRygbi, crefydd ac addysg yw conglfeini bywyd Bleddyn Jones.Wedi ei fagu ym Mrynaman, symudodd i Gaerlŷr i fod yn athro ysgol gynradd, gan ymuno â thîm rygbi'r Leicester Tigers ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd.Er bod sawl un wedi dweud wrtho nad oedd yn ddigon tal na chryf i chwarae rygbi, bu'n faswr i Gaerlŷr 333 gwaith, ac mae nawr yn sylwebu ar eu gemau i orsaf leol y BBC ers deng mlynedd ar hugain.
-
David Williams
25/05/2018 Duration: 50minYn wreiddiol o Drawsfynydd, fe symudodd David Williams i'r Ganllwyd pan benodwyd ei dad yn brifathro yno. Symudodd y teulu i Seland Newydd pan oedd yn blentyn gan fod galw mawr am athrawon yno. Golygai hyn siwrnai 6 wythnos ar long. Pan oedd David Williams yn ei arddegau fe ddaeth y teulu yn ôl i Gymru ac fe aeth David ati i astudio newyddiaduraeth. Bu'n gweithio fel is-olygydd newyddion yn Swansea Sound, a rhwng 1977 ac 1987 roedd yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau teledu fel gohebydd 'Wales Today' a 'Wales This Week' gydag ITV. Daeth David Williams i sylw'r wasg ryngwladol yn sgil ambell i stori yr aeth ar ei hol, a bu hefyd yn gyflwynydd y rhaglen deledu Dragon's Eye, oedd yn cadw llygad ar weithgareddau ym Mae Caerdydd.