Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Iwan Roberts
03/10/2019 Duration: 44minBeti George yn sgwrsio gyda'r actor, canwr a'r nofelydd Iwan "Iwcs" Roberts. Beti George's guest is actor, singer and novelist Iwan Roberts.
-
Siôn Tomos Owen
19/09/2019 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda'r artist, awdur a chyflwynydd Siôn Tomos Owen. Beti George's guest is the artist, author and presenter Siôn Tomos Owen.
-
Stifyn Parri
08/09/2019 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd a'r cynhyrchydd Stifyn Parri. Beti George chats to Stifyn Parri.
-
Gwyn Pierce Owen
01/09/2019 Duration: 33minBeti George yn sgwrsio gyda'r dyfarnwr pêl-droed Gwyn Pierce Owen mewn fersiwn fyrrach o raglen o 1997. Beti George chats to referee Gwyn Pierce Owen.
-
Orig Williams
25/08/2019 Duration: 43minBeti George yn sgwrsio gyda'r reslwr Orig Williams mewn fersiwn fyrrach o raglen o 2002. Beti George's guest is wrestler Orig Williams.
-
Rod Richards
22/08/2019 Duration: 35minBeti George yn holi Rod Richards am ei fywyd a'i yrfa, mewn rhaglen a gafodd ei darlledu'n wreiddiol yn 1993. Beti George's interview with Rod Richards in 1993.
-
Mair Penri
15/08/2019 Duration: 40minBeti George yn holi Mair Penri o'r Parc sy'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau'r eisteddfodau a nosweithiau llawen. Beti George interviews Mair Penri.
-
Dafydd Apolloni
28/07/2019 Duration: 41minBeti George yn sgwrsio gyda Dafydd Apolloni, un o gymeriadau tref Llanrwst.Mae'n hanner Cymro a hanner Eidalwr, gyda'i dad yn dod o Rufain a'i fam yn ferch i Idwal Jones, y dyn wnaeth greu SOS Galw Gari Tryfan!Yn fesitr ar ddysgu iaith, mae ef ei hun yn siarad Cymraeg, Saesneg, Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg., a threuliodd gyfnodau yn byw yn Prague, Paris a'r Eidal.Yn y rhaglen, mae'n trafod pa mor ddosbarth canol ac elît yw'r Eisteddfod.
-
Betsan Moses
21/07/2019 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.Yn ogystal â thrafod y Brifwyl ei hun, gan gynnwys ei dyfodol a'r trafferthion cyn Eisteddfod Sir Conwy 2019, mae hi hefyd yn sôn wrth Beti am ei magwraeth yng Nghwm Gwendraeth, a'i chred anhygoel mewn ofergoelion.
-
Gwen Parrott
14/07/2019 Duration: 48minCafodd Gwen Parrott ei magu yn Sir Benfro, cyn treulio deugain mlynedd yn byw ym Mryste.Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n sôn am fagwraeth syml ym mhentref Bwlchygroes, a sut y dechreuodd hi sgwennu ar ôl cael gradd ym Mhrifysgol Caerdydd.Mae'n briod gyda meddyg teulu sy'n hannu o Tsieina.
-
Eirian Jones
11/07/2019 Duration: 48minBeti George yn sgwrsio gydag Eirian Jones, a dreuliodd dair blynedd ar ddeg yn dyfarnu yn Wimbledon.Yn wreiddiol o Flaenpennal, mae nawr yn olygydd llyfrau Saesneg gyda'r Lolfa, ac yn byw yn Llangeitho.Mae'n awdures, yn gyn-athrawes, ac yn flaenor yng Nghapel Gwynfil.Mae wedi parasiwtio, rhedeg marathonau, a dringo Everest.
-
Richard Lewis
04/07/2019 Duration: 48minDaw Richard Lewis o Borth Tywyn, ac wedyn Meinciau.Wedi gadael Ysgol y Strade, aeth i wneud gradd daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn treulio dwy flynedd yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.Penderfynodd ei fod am ymuno â'r heddlu, a chafodd swydd fel cwnstabl yng Ngheredigion.Dringodd ysgol gyrfa yn gyflym iawn, a chael ei benodi'n Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland yn Ebrill 2019.Mae'n parhau i fyw yn Aberaeron, gan deithio yn ôl ac ymlaen bob penwythnos.Roedd yn chwaraewr rygbi addawol iawn, a bu'n chwarae i dîm ieuenctid y Scarlets. Mae hefyd yn ddeiliad tocyn tymor i dîm pêl-droed yr Elyrch.
-
Gwerfyl Roberts
27/06/2019 Duration: 44minBeti George yn sgwrsio gyda Gwerfyl Roberts.Yn enedigol o Lanbrynmair, ac wedi gweithio fel nyrs a darlithydd yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor, mae wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd lawer i wella statws y Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd.
-
16/06/2019
17/06/2019 Duration: 43minBeti George yn sgwrsio gydag un o bobl Cymru. Chat show with Beti George.
-
Arwyn 'Groe' Davies
13/06/2019 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gydag Arwyn 'Groe' Davies, y bardd a'r amaethwr o Ddyffryn Banw. Beti George interviews Arwyn 'Groe' Davies.
-
Elin Parisa Fouladi
02/06/2019 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gydag Elin Parisa Fouladi. Beti George chats to Elin Parisa Fouladi.
-
26/05/2019
26/05/2019 Duration: 48minBeti George yn sgwrsio gydag un o bobl Cymru. Chat show with Beti George.
-
Llinos Dafydd
19/05/2019 Duration: 47minBeti George yn sgwrsio gyda Llinos Dafydd, sy'n cyfuno gwaith fel cyfieithydd, golygydd, newyddiadurwraig a ffotograffydd.Mae'n disgrifio ei magwraeth fel un ddelfrydol, yn llawn bwrlwm y Clwb Ffermwyr Ifanc a chymeriadau diddorol.Newidiodd ei bywyd pan oedd yn ei harddegau, o ganlyniad i gael ei threisio, a mae'n sôn wrth Beti am fyw gyda'r ôl-effeithiau.Gydag ysgrifennu wedi bod yn rhan o'i bywyd erioed, arweiniodd hynny at swydd gyda chylchgrawn Golwg wedi gadael yr ysgol.Mae'n cyfuno sawl swydd bellach, gan gynnwys arwain prosiect i gyhoeddi e-gylchgrawn Cymraeg ar gyfer merched ifanc, sef Lysh. Mae'r dull yma o weithio'n caniatáu iddi aros yn ei hardal enedigol, ac i fagu teulu yno, sydd yn hollbwysig iddi.
-
Dylan Huws
14/05/2019 Duration: 52minBeti George yn sgwrsio gyda Dylan Huws, Rheolwr-Gyfarwyddwr Cwmni Da.Celf oedd yn mynd â'i fryd yn yr ysgol, a mae'n cofio'r bwrlwm a'r cyffro wrth astudio'r pwnc yn Lerpwl ddiwedd y 70au.Darlithiodd mewn celf am rai blynyddoedd, cyn cael cynnig swydd gyda chwmni teledu, a bwrw ei brentisiaeth ar y gyfres Hel Straeon.Yn un o sylfaenwyr Cwmni Da, yn ddiweddar daeth y cwmni i fod yn un sydd ym mherchenogaeth ei weithwyr.Mae'n trafod pwysigrwydd gwrando ar eich greddf, rhedeg, Deian a Loli, a her cystadlu'n y farchnad deledu ryngwladol.
-
Catrin Williams
05/05/2019 Duration: 45minMae'r artist Catrin Williams wedi'i disgrifio fel chwa o awyr iach yn y byd celfyddydol, oherwydd ei defnydd o liw; serch hynny, mae pobl yn prynu ei gwaith yn parhau i'w synnu.Cafodd ei magu ar fferm ger Y Bala, ac mae'r profiad o fyw yng Nghymru wedi dylanwadu'n fawr ar ei chelf.Astudiodd ym Mangor gyda'r arlunydd Peter Prendergast, ac yna yng Nghaerdydd.Ar daith i Baris fel myfyriwr, gwelodd arddangosfa o waith Matisse. Cafodd ei hysbrydoli, a mae'n dweud iddi ddarganfod ei harddull ei hun fel artist o ganlyniad.Paentio mae hi gan fwyaf, ond mae hefyd yn gweithio gyda chyfryngau a deunyddiau amrywiol, ac yn hen law ar gynnal gweithdai celf ar hyd a lled Cymru.Mae'n sgwrsio gyda Beti am orfod creu, teithio gydag Anhrefn, ac am bwysigrwydd cerddoriaeth.